Skip to main content

How to Apply


Dod o hyd i Swyddi Gwag

Mae ein swyddi gwag cyfredol wedi eu rhestru ar y wefan hon ac mae modd eu gweld wrth y math o rôl, e.e. Academaidd, lleoliad campws, llawn amser/rhan-amser ac os ydych chi’n dymuno gweld yr holl swyddi gwag cyfredol, gallwch ddewis yr opsiwn i’w gweld i gyd.

Sut i Ymgeisio

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn swydd, cliciwch y botwm Ceisio Ar-lein o fewn hysbyseb y swydd a gofynnir i chi gofrestru a sefydlu cyfrif ar y safle neu mewngofnodwch i’r cyfrif rydych chi wedi ei greu yn barod. Sicrhewch eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwch yn rheolaidd, oherwydd dyna sut y byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda chi ynglyn â’ch cais.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi cysylltwch ag Adnoddau Dynol.

Mae’n rhaid i’r holl geisiadau gael eu cyflwyno ar-lein erbyn Hanner Nos amser y DU ar y dyddiad cau.

Ffurflen Gais

Gellir cwblhau’r ffurflen gais ar-lein mewn camau a gallwch fewngofnodi/allgofnodi ar unrhyw adeg. Mae’r ffurflen yn arbed yn awtomatig wrth i chi gofnodi’ch gwybodaeth ac mae’n syml i symud yn ôl ac ymlaen o fewn y ffurflen ar unrhyw adeg cyn cyflwyno. Mae help ar gael ar bob cam i’ch cyfarwyddo trwy’r ffurflen.

Cyn cyflwyno terfynol, gallwch fwrw golwg ar eich cais a dewis wedyn i ddiwygio neu gyflwyno’r ffurflen.

Ar ôl Ceisio

Wedi i chi gyflwyno’ch cais, byddwch yn gweld yn y parth ‘Fy Ngheisiadau’, y bydd statws eich cais yn "cyflwynwyd" a bydd hefyd yn dangos dyddiad cyflwyno.

Y diwrnod canlynol, byddwch yn derbyn e-bost cydnabyddiaeth.

Ar ôl y Dyddiad Cau 

Bydd y panel dethol yn asesu’r holl ymgeiswyr yn erbyn gofynion y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person. Bydd hyn yn cynnwys asesu a sgorio ymatebion i gwestiynau’r meini prawf dethol, gan sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn unol â’r meini prawf a nodwyd.

Ar ôl i’r rhestr fer gael ei llunio, caiff Adnoddau Dynol wybod beth fydd penderfyniad y panel.

Bydd Adnoddau Dynol wedyn yn cysylltu â’r ymgeiswyr fel y bo’n briodol.